Y Seintiau Newydd yn cipio'r trebl

  • Cyhoeddwyd
Dathlu curo Airbus 2-0 yn rownd derfynol Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Gareth hughes

Mae'r Seintiau Newydd wedi efelychu llwyddiant y llynedd drwy gipio'r trebl unwaith eto eleni.

Fe wnaethon nhw guro Airbus 2-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru ddydd Llun ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Rhoddodd gôl Ryan Brobbel yn yr hanner cyntaf y Seintiau ar y blaen yn erbyn Airbus oedd yn ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf.

Sgoriodd Scott Quigley yr ail yn fuan wedi'r egwyl.

Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu bod MBI Llandudno yn cystadlu yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf ar ôl gorffen yn drydydd yn Uwch Gynghrair Cymru.

Fis diwethaf cafodd y Sentiau eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar ôl iddyn nhw guro'r Bala o 2-0, y pumed gwaith yn olynol i'r clwb gipio'r gynghrair.

Maen nhw eisoes hefyd wedi ennill Cwpan y Gynghrair.