Cyflwyno llythyr o fwriad i brynu asedau dur Tata
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni dur Liberty House, sy'n eiddo i Sanjeev Gupta, wedi cadarnhau i'r BBC y bydd yn cyflwyno llythyr o fwriad ddydd Mawrth i brynu asedau dur Tata yn y DU.
Mae Tata yn gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain oherwydd eu colledion ac maent wedi gofyn i ddarpar brynwyr wneud cynigion.
Mae Tata wedi dweud y byddant yn rhoi digon o amser i'r llywodraeth a phrynwyr posibl i drefnu pecyn achub, ond nad oeddynt am ymestyn yr amser yn ormodol er mwyn osgoi ansicrwydd i'w cwsmeriaid a'u gweithwyr.
Fis diwethaf, fe wnaeth llywodraeth y DU gyhoeddi eu bod yn barod i gymryd cyfran o 25% mewn unrhyw ymgais i achub safleoedd dur Tata Steel ym Mhrydain.
Dywedodd yr adran fusnes eu bod yn paratoi pecyn cymorth "gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd" i fod ar gael i ddarpar brynwyr.