Scarlets: Cytundebau newydd i Gareth Owen a Tom Williams

  • Cyhoeddwyd
Gareth OwenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gareth Owen wedi chwarae 21 gwaith i'r Sgarlets y tymor hwn

Mae'r olwyr Gareth Owen a Tom Williams wedi arwyddo cytundebau i aros gyda'r Scarlets am y ddwy flynedd nesa.

Ymunodd Owen, 27 oed, â'r rhanbarth o dîm y Gweilch yn 2012 tra bod Williams yn gadael y Gleision ar ôl bod yn chwarae i'r Scarlets ar fenthyg am dymor.

Nid yw Williams, 25 oed, wedi bod yn chwarae ers diwedd mis Ionawr oherwydd anaf i'w ysgwydd.

"Mae wedi bod yn fisoedd rhwystredig yn gorfod gwylio o'r ochr... Ond dwi'n edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf," meddai.

Mae Owen, sy'n chwarae yn y canol neu ar yr asgell wedi cynrychioli Cymru yn y timau dan 19 a dan 20.

Dywedodd: "Dwi'n teimlo mod i wedi cael cyfle i ddangos beth allai neud y tymor hwn. Hefyd dwi wedi osgoi anafiadau sydd yn golygu bo fi wedi chwarae llawer o gemau."

Bydd y Scarlets yn cipio'r bedwerydd safle yn y Pro 12 os lwyddan nhw guro Munster ym Mharc Thomond ddydd Sadwrn ac os fydd Ulster yn colli i'r Gweilch.