Etholiad 2016: Y sefyllfa yn yr Alban
- Cyhoeddwyd
Cemlyn Davies sydd wedi bod yn Holyrood cyn yr etholiad
Nid pobl Cymru yn unig fydd yn pleidleisio ar 5 Mai. Bydd etholiadau yn Llundain, i gynghorau ar draws Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, lle mae yna ddarogan y bydd yr SNP yn ennill mwyafrif o'r seddi yn Holyrood. Bydd ein gohebydd gwleidyddol, Cemlyn Davies yn y cyfri yn Glasgow nos Iau a dyma'i eglurhad e o'r sefyllfa etholiadol yn yr Alban.
Beth yw'r drefn etholiadol yn yr Alban?
Mae'r drefn yn yr Alban yn debyg iawn i'r drefn yng Nghymru. Mae pob pleidleisiwr yn cael dwy bleidlais, ac mae yna aelodau sy'n cynrhychioli rhanbarthau etholiadol yn ogystal ag etholaethau unigol.
Serch hynny, mae Senedd yr Alban dros ddwywaith maint Cynulliad Cymru, gyda 129 o seddi.
Mae 73 o'r aelodau yn cael eu hethol yn ôl y system cyntaf i'r felin, pan fo'r ymgeisydd sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth yn cipio'r sedd honno.
Fe ddaw'r 56 aelod sy'n weddill o wyth rhanbarth etholiadol yr Alban - saith o bob un - ac fe gaiff y rhain eu hethol drwy'r system gyfrannol, pan ystyrir ail bleidlais yr etholwyr a nifer y seddi mae pob plaid wedi eu hennill yn barod yn y rhanbarth honno.
Yn ddiddorol hefyd, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn yr etholiad hwn.
Sut ymgyrch yw hi wedi bod?
Tra bo cryn dipyn o ddiddordeb yn yr etholiad, mae yna deimlad hefyd bod etholwyr yr Alban yn dechrau blino ar yr holl ymgyrchu. Ddwy flynedd yn ôl, fe gafodd y refferendwm ar annibyniaeth ei chynnal ac fe ddigwyddodd yr etholiad cyffredinol y llynedd. Roeddwn i yma cyn y ddwy bleidlais hynny ac yn sicr does dim cymaint o gynnwrf y tro hwn.
Fe fydd hi'n ddiddorol gweld felly faint o bobl sy'n bwrw eu pledlais yma ar 5 Mai. Mae yna bryder y bydd y ffigwr yn gymharol isel.
Beth yw'r prif bynciau trafod?
Fel yng Nghymru, mae iechyd, addysg a chyflwr yr economi'n bynciau amlwg iawn. Mae llawer o sylw wedi ei roi hefyd i bolisiau treth y pleidiau. Mae'r Alban newydd gael pwerau newydd ym maes treth incwm, ac mae disgwyl i bwerau pellach gael eu datganoli dros gyfnod y senedd nesa.
Mae annibyniaeth yn daten boeth o hyd. Hwn oedd y pwnc daniodd y drafodaeth fwyaf diddorol yn ystod dadl arweinwyr prif bleidiau'r Alban nos Sul, pan oedd yna ddadlau dros y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm.
Beth mae'r arolygon barn yn ei ddarogan?
Mae'r arolygon barn yn awgrymu'n gryf y bydd hi'n noson gofiadwy arall i'r SNP. Y disgwyl yw y bydd y blaid yn ychwanegu at ei seddi yn Holyrood ac yn ffurfio llywodraeth fwyafrifol arall.
Yn wir, yn ôl yr arbenigwyr gwleidyddol, yma'n yr Alban, mi fydd hi'n fwy diddorol gweld pa blaid fydd yn ail wedi'r etholiad.
Mae'n ras agos rhwng Llafur - sy'n gobeithio gwneud cynnydd wedi noson drychinebus ar draws yr Alban yn yr etholiad cyffredinol - a'r Ceidwadwyr sy'n gweld cyfle i ennill y blaen a ffurfio'r brif wrthblaid yn Senedd yr Alban.
Beth am y pleidiau eraill?
Mae ras hefyd ar gyfer y pedwerydd safle, rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion, a enillodd ddwy sedd yn Holyrood yn 2011.
Ac mae UKIP yn hyderus y gallan nhw ennill eu haelod cyntaf yn Senedd yr Alban.