Darganfod corff yn Y Fenai
- Published
image copyrightDavid Dixon
Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y môr yng Ngwynedd ddydd Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw am 18:38 nos Lun wedi adroddiadau bod corff wedi dod i'r fei yn Y Fenai yn ardal Treborth, ger Bangor.
Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.
Mae'r crwner wedi cael gwybod.