Meddygon yn gwadu dynladdiad bachgen 12 oed yn Abertyleri
- Cyhoeddwyd

Mae dau feddyg wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad yn dilyn marwolaeth bachgen 12 oed o Abertyleri ym Mlaenau Gwent.
Mae'r meddygon teulu Joanne Rudling a Lindsay Thomas wedi eu cyhuddo o ladd Ryan Morse yn anghyfreithlon drwy esgeulustod ar 8 Rhagfyr 2012.
Mae Dr Rudling hefyd yn wynebu cyhuddiad ychwanegol o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae disgwyl i'r achos barhau am bedair wythnos ac mae'r ddwy ddynes wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Davies wrth Lys y Goron Caerdydd: "Achos ei farwolaeth oedd clefyd Addison.
"Mae'r diffynyddion yn feddygon, ac roedden nhw'n feddygon teulu. Mae'r Goron yn honni mai gweithredoedd o esgeulustod y meddygon wnaeth arwain at ei farwolaeth."
Bydd y rheithgor yn tyngu llw ddydd Mercher.