Agor canolfan ganser yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfle i bobl o Geredigion sydd wedi eu heffeithio gan ganser i ddefnyddio canolfan wybodaeth a chefnogaeth newydd gan elusen Macmillan, sydd yn agor ddydd Mercher.
Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei lansio yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, gan Susan Morris, pennaeth gwasanaethau elusen Macmillan Cymru, a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore.
Mae'r gwasanaeth yn rhan o fuddsoddiad o £3.3m yn y bwrdd iechyd dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn cefnogi swyddi a chynlluniau, gyda £500,000 yn cael ei glustnodi'n benodol ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwasanaethau cefnogi cleifion.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth ymhob un o'r pedwar prif ysbyty sydd dan ofal y bwrdd iechyd.
'Cymorth'
Dywedodd Susan Morris o Macmillan Cymru:
"Mae 3,160 o bobl yn byw gydag a thu hwnt i ganser ac mae 465 o bobl yn derbyn diagnosis pob blwyddyn. Mae hyn yn golygu eu bod angen mwy na chymorth meddygol, maen nhw angen cymorth ymarferol, emosiynol ag arianol, ac fe all canolfan wybodaeth a chefnogaeth Macmillan ddarparu hyn.
"Mae modd gorlwytho pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser gyda gwybodaeth am eu diagnosis a'u triniaeth. Bydd y gwasanaeth yn sicrhau y bydd pawb sydd wedi'u heffeithio gan ganser yn cael y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir."
Dywedodd Steve Moore, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydym yn falch iawn o nodi agoriad y ganolfan wybodaeth hon yn Ysbyty Bronglais, fydd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i bobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf.
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cydweithio gyda'n partner, Macmillan, i ddarparu'r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn agos i adref ar gyfer ein cleifion."