Carchar am 12 mlynedd am herwgipio dyn
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caernarfon mae dyn wedi ei garcharu am 12 mlynedd am herwgipio dyn arall.
Cafodd Nathan Parry, 37 oed, o Jack's Wood, Ellesmere Port, ei ddisgrifio gan y barnwr fel arweinydd y gang oedd wedi herwgipio'r dyn o ardal wledig rhwng Y Trallwng a Chroesoswallt.
Roedd y dynion wedi gosod golau glas ar ben eu car mewn ymgais i edrych fel plismyn, ac roedd y dyn gafodd ei herwgipio wedi cael ei ddilyn am nifer o fisoedd cyn y digwyddiad.
Fe gafodd Parry ei ddyfarnu'n euog o herwgipio, carcharu drwy dwyll, a blacmel.
Clywodd y llys ei fod wedi derbyn cymorth dau ddyn - Andrew Ballantyne, 36 oed, o Gaer, a David Staff, 34 oed, hefyd o Gaer. Cafodd y ddau garchar o saith mlynedd a hanner yr un am gyfaddef eu rhan yn y drosedd.
Cafodd Carl Nicholas, 33 oed, o Wrecsam, ei garcharu am 18 mis wedi iddo bledio'n euog i fygwth tyst oedd yn rhan o'r achos llys.
Derbyniodd Natalie Goode, 33 oed, o Gaer ddedfryd o 18 mis o garchar wedi ei ohirio am flacmel ond fe'i cafwyd yn ddi-euog o herwgipio.
Roedd wedi ei chyhuddo o gasglu o leiaf £11,000, ag o bosib hyd at £20,000 gan fam y dyn oedd wedi ei gipio.
Fe gafodd orchymyn i wneud 250 o oriau o waith yn y gymuned yn ddi-dal.