Delweddau anweddus: Cyhuddo dau athro o Wynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dau frawd oedd yn gweithio fel athrawon yng Ngwynedd wedi eu cyhuddo o fod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant, ag o greu delweddau anweddus o blant.
Roedd Robyn Wheldon-Williams yn athro yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon pan gafodd ei arestio'r llynedd. Roedd ei frawd Dyfan Wheldon-Williams yn athro yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, pan gafodd ei arestio.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, nid yw'r cyhuddiadau'n gysylltiedig â'u gwaith i'r awdurdod.
Dywedodd llefarydd o Heddlu Gogledd Cymru: "Heddiw, ar ddydd Mawrth Mai 3ydd, cafodd dau ddyn o ardal Caernarfon eu cyhuddo o nifer o droseddau'n ymwneud â chreu a bod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant. Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fydd gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon ar 20 Mai."
Mae Robyn Wheldon-Williams wedi cyd-gyflwyno cyfres wyddonol i blant o'r enw Atom ar S4C yn y gorffennol, ac roedd yn Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r Eisteddfod Genedlaethol am gyfnod. Mae hefyd wedi cael ei gyflogi gan Brifysgol Bangor yn y gorffennol.
Cyngor Gwynedd
Dywedodd llefarydd o Gyngor Gwynedd: "Mae aelod o staff dysgu'r awdurdod wedi ei gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru o droseddau'n ymwneud â chreu a bod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant.
"Fel rhan o'r un ymchwiliad, mae cyn aelod o staff dysgu'r awdurdod hefyd wedi ei gyhuddo. Nid yw'r cyhuddiadau'n gysylltiedig â'u gwaith i'r awdurdod.
"Pan ddaeth yr honiadau i sylw'r cyngor, fe gafodd yr holl ganllawiau amddiffyn plant priodol eu dilyn, ac fe gafodd yr aelodau o staff eu gwahardd o'u gwaith.
"Ni fyddai'n briodol i'r cyngor i wneud sylw pellach tra bo achos cyfreithiol ag ymchwiliad mewnol yn cael eu cynnal."