Agor cwest i farwolaeth pysgotwr ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth pysgotwr o Sir Benfro wedi ei agor a'i ohirio gan grwner ddydd Mawrth.
Bu farw Gareth Willington ar ôl i'w gwch, yr Harvester, suddo ger Tyddewi ar 28 Ebrill. Bydd gwrandawiad cyn-gwest yn cael ei gynnal fis Hydref.
Roedd mab Mr Willington, Daniel, hefyd ar y cwch, ond mae'n dal ar goll ac mae'r chwilio amdano wedi dod i ben.
Bu pum bad achub, hofrennydd a chychod pysgota yn rhan o'r chwilio amdano.