Etholiad: Yr ymgyrchu ola' cyn y bleidlais ddydd Iau

arweinwyr

Mae'r arweinwyr gwleidyddol yn ymdrechu am y tro olaf am bleidleisiau cyn etholiad y Cynulliad ddydd Iau, y pumed etholiad ers datganoli yn 1997.

Gydag argyfwng y diwydiant dur wedi cipio'r penawdau, mae'r gwrthbleidiau yn ceisio canolbwyntio'u sylw ar record Llafur mewn grym.

Fe enillodd y blaid 30 o'r 60 sedd yn yr etholiad yn 2011, ac maen nhw'n dweud y bu "gwelliannau go iawn" mewn meysydd fel iechyd ers hynny.

Fe gipiodd y Ceidwadwyr 14 o seddi bum mlynedd yn ôl, Plaid Cymru 11 a'r Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd.

Mae UKIP yn obeithiol o ennill eu seddi cyntaf yn yr etholiad, gydag arweinydd y blaid, Nigel Farage, yn credu y gallan nhw gipio pum sedd.

Cynhelir etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru ddydd Iau hefyd. Bydd y canlyniadau yn cael eu harddangos ar y dudalen hon unwaith iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Llafur ddim 'ynghlwm'

Image caption Carwyn Jones

Mae arweinydd Llafur, Carwyn Jones, wedi bod yn ymgyrchu yn y de, ond yn siarad fore Mercher, dywedodd wrth BBC Cymru na fydd yn "rhwym" i ganlyniadau adolygiad o ffioedd dysgu prifysgolion fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Mae'r adolygiad, sy'n cael ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond, yn ystyried a oes angen newid y system bresennol lle mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £5,190 tuag at ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru yn y DU.

Fis diwethaf, dywedodd y gweinidog addysg Huw Lewis y byddai'r Llywodraeth Lafur nesaf yn "parchu" casgliadau'r adolygiad.

Ond yn siarad ar raglen Good Morning Wales, dywedodd: "Fyddwn ni ddim yn rhwym i'r hyn mae'r adroddiad yn ei ddweud."

Mae'r adolygiad, dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, yn ystyried a oes angen newid y system bresennol, ble mae Llywodraeth Cymru'n talu hyd at £5,190 tuag at ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn unrhyw ran o'r DU.

Mae maniffesto Llafur yn addo cynnig gwell i fyfyrwyr yng Nghymru nag yn Lloegr, ond nid yw'n cynnwys manylion.

Fe wnaeth Mr Jones, sydd wedi bod yn Brif Weinidog ers 2009, hefyd wrthod dweud pryd y gallai adael y swydd.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n haerllug dweud wrth bobl, dwi am benderfynu ar fy amserlen o ran pa mor hir rydw i'n gwneud y swydd."

Image caption Andrew RT Davies

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn cwblhau taith 36-awr o amgylch Cymru. Dywedodd mai ei nod oedd "disodli plaid Lafur sy'n haerllug, flinedig ac sy'n methu, oddi ar ei hechel".

Mae Mr Davies wedi dweud y byddai'n cael gwared ar bresgripsiynau am ddim ar gyfer y "bobl gyfoethocaf oll", gan ddiffinio hynny fel pobl sy'n talu treth incwm o 40% ar incwm trethadwy o £43,000. Mae'n honni y gallai hynny ryddhau rhwng £35m-£40m, ac y byddai'r Ceidwadwyr yn gwario hynny ar wasanaethau canser a "mannau gwan" eraill yn y gyllideb iechyd.

Meddai Mr Davies: "Nid wyf yn bersonol yn credu ei bod yn iawn y gall trethdalwyr ar raddfa 40% gerdded i mewn a chael parasetamol ar bresgripsiwn am ddim.

"Ac eto mae claf canser yn methu â chael triniaeth ganser sy'n achub bywyd yn unrhyw le yng Nghymru gan nad ydym wedi cael cronfa cyffuriau canser."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi bod yn Sir Drefaldwyn ac yn annog pobl i "bleidleisio i'r blaid sy'n cyflawni."

Dywedodd: "Yn wahanol i'r pleidiau eraill, nid ydym yn fodlon ar gwyno ar y cyrion.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bob amser yn torchi llewys ac yn cyflawni pethau dros ein cymunedau, ac i bobl Cymru.

"Os yw ein record dros y pum mlynedd diwethaf yn dangos unrhyw beth, mae pleidlais i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bleidlais ar gyfer rhoi ein polisïau ar waith."

Image caption Leanne Wood

Bu arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ymgyrchu yng nghymoedd y de ac apeliodd ar bleidleiswyr Llafur sydd wedi eu dadrithio, gan ddweud wrthyn nhw ei bod yn "rhannu eu gwerthoedd".

Meddai Ms Wood: "I bobl sydd am gryfhau ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n awyddus i gyflwyno tegwch a chydraddoldeb yn ein cymunedau, ac sydd am gael llywodraeth a fydd yn edrych ar ôl pobl o'r crud i'r bedd, gallwch fod yn hyderus bod Plaid Cymru eisiau hynny hefyd. "

Yn y cyfamser, fe wnaeth arweinydd UKIP Nigel Farage gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghasnewydd nos Fawrth.

Dywedodd Plaid Werdd Cymru ei bod yn annog pobl i roi eu hail bleidlais i'r Gwyrddion, ar gyfer y rhestr ranbarthol, er mwyn helpu'r "frwydr dros Gymru well, decach a mwy cynaliadwy".

"Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym system bleidleisio flaengar," meddai eu harweinydd, Alice Hooker-Stroud.

"O ran eich ail bleidlais, y bleidlais ranbarthol, gallwch bleidleisio dros yr hyn yr ydych yn credu ynddo."