Morgannwg yn gosod targed o 187 i Swydd Gaint
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi gosod targed o 187 er mwyn i Swydd Gaint gipio buddugoliaeth ar drydydd diwrnod eu gêm.
Sgoriodd David Lloyd ei ganred cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth wrth iddo adeiladu partneriaeth o 215 am y chweched wiced gyda Graham Wagg a sgoriodd 106.
Roedd Morgannwg yn 156-5 pan ddechreuodd y bartneriaeth, ond fe lwyddodd nhw i gyrraedd 414 erbyn diwedd eu hail fatiad. Mae hynny'n gosod nod o 187 i Swydd Gaint ar gyfer y fuddugoliaeth.
Roedd Swydd Gaint wedi cyrraedd 22-0 sy'n golygu bod angen 167 yn ychwanegol arnyn nhw i ennill ar y diwrnod olaf ddydd Mercher.