Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Ystrad Mynach
- Published
image copyrightHeddlu Gwent/Google
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff menyw gael ei ddarganfod yn Sir Caerffili.
Ymatebodd Heddlu Gwent i alwad am gymorth gan Wasanaeth Ambiwlans De Cymru i Heol Nelson, Ystrad Mynach, am 17:45 ddydd Mawrth.
Daeth y swyddogion o hyd i gorff menyw ac mae ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Cafodd dyn 47 oed ei arestio yn y fan a'r lle ac y mae yn y ddalfa.