Clarach y Gwalch yn dychwelyd: 'Carreg filltir'
- Cyhoeddwyd

Mae cyffro ymhlith y rhai sy'n gweithio mewn gwarchodfa yng nghanolbarth Cymru gan fod un o'r cywion gafodd eu geni yno wedi dychwelyd am y tro cyntaf.
Glaniodd Clarach, cyw cyntaf Glesni, ar nyth Glaslyn yng ngors Dyfi, ger Machynlleth, am 11:41 fore Mawrth am 19 eiliad.
Dywedodd tîm y prosiect fod glaniad Clarach yn "garreg filltir" yn y gwaith.
Mae modd gwylio'r nyth trwy lif byw ar wefan y prosiect.
Mae'r gweilch sy'n dychwelyd i'r warchodfa'n flynyddol o Affrica wedi ymddangos ar raglen y BBC Springwatch.
Mae cors Dyfi yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.
Cafodd tŵr gwylio newydd gwerth £1.4miliwn ei agor yn 2014, ac o'r llawr gwylio uchaf sydd 10m uwchben cors Dyfi, mae modd cael golygfa banoramig 360 gradd o Ddyffryn Dyfi a mynyddoedd Pumlumon a Pharc Cenedlaethol Eryri tu hwnt.