Swyddfa Dywydd yn hepgor Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Rhagolygon Dydd Sadwrn 30 Ebrill
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud wrth y BBC y bydd yn chwilio am "ffordd arall" o arddangos gwybodaeth ar ôl cyhoeddi mapiau heb Ynys Môn.
Roedd y rhagolygon ar gyfer y penwythnos diwethaf hefyd yn hepgor Ynys Wyth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Nid yw rhai rhannau o Ynysoedd Prydain yn cael eu cynrychioli yn benodol, fel Ynys Môn ac Ynys Wyth.
"Mae'r mapiau yn amlinellol ac yn sail i arddangos rhagolygon y tywydd neu wybodaeth arall.
"Ond byddwn yn ymdrechu ble mae'n bosibl i ddod o hyd i ffordd arall sy'n cynnwys y cyfan o Ynysoedd Prydain".
Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Rhagolygon Dydd Sul 1 Mai
Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Rhagolygon Dydd Llun 2 Mai