Achub plentyn oedd yn tagu ar rawnwin mewn ysgol

  • Cyhoeddwyd
Bailee-Rae Parker gyda Sean Canham (chwith) ac Alun EvansFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bailee-Rae Parker gyda Sean Canham (chwith) ac Alun Evans

Mae dau aelod o staff yn Ysgol Gymraeg Coed Y Gof yng Nghaerdydd wedi eu canmol am helpu disgybl oedd yn tagu ar rawnwin.

Roedd Bailee-Rae Parker, pump oed, yn cael cinio pan aeth y ffrwythau yn sownd yn ei gwddf yn yr ysgol yn ardal Pentre-baen y brifddinas.

Wrth i Bailee gael trafferth i anadlu, defnyddiodd Sean Canham, cynorthwy-ydd dysgu, symudiad Heimlich i gael awyr yn ôl i'w hysgyfaint.

Yna rhoddodd Alun Evans ergydion bach i'w chefn i ryddhau'r grawnwin.

Hyfforddiant

Dywedodd Mr Evans ei fod yn gwybod beth i'w wneud fel rhan o dîm cymorth cyntaf yr ysgol.

"Rhoddais ychydig o slapiau ar y cefn fel yr ydym wedi ein hyfforddi i'w wneud," meddai.

"Yna fe ddaeth allan - grawnwin du."

Dywedodd y prifathro, Mike Hayes: "Mae mam Bailee-Rae yn hynod ddiolchgar. Mae hi wedi bod i mewn i'r ysgol i ddiolch i Sean ac Alun yn bersonol.

"Mae'r perygl i blentyn o dagu ar ddarn bach o ffrwythau yn real iawn.

"Rydym wedi atgoffa ein holl rieni i dorri grawnwin, tomatos bach, a ffrwythau tebyg yn chwarteri."