Achos dynladdiad: 'Byddai ei fywyd wedi ei achub'

  • Cyhoeddwyd
Dr Lindsay Thomas, Dr Joanne Rudling
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr Lindsay Thomas (chwith) a Dr Joanne Rudling yn gwadu'r cyhuddiadau

Mae llys wedi clywed y byddai bywyd bachgen 12 oed wedi ei achub petai dau feddyg teulu "wedi gwneud yr hyn y dylen nhw fod wedi ei wneud".

Bu farw Ryan Morse, o Frynithel ger Abertyleri, ym mis Rhagfyr 2012, ar ôl cael ei daro'n wael gyda Chlefyd Addison.

Mae'r Dr Lindsey Thomas, 42, o Dredegar, a Dr Joanne Rudling, 46, o Bontprennau yng Nghaerdydd, wedi eu cyhuddo o ddynladdiad y bachgen.

Mae'r ddwy yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Ryan Morse ym mis Rhagfyr 2012

Clywodd Llys y Goron Caerdydd gan John Price QC ar ran yr erlyniad bod Clefyd Addison yn brin, ond bod modd ei drin, a bod "10 i 15 o achosion ym mhob 100,000 o bobl".

Dywedodd wrth y rheithgor bod mam Ryan wedi dechrau poeni am iechyd ei mab yn ystod gwyliau'r haf yn 2012.

Roedd y bachgen wedi cwyno am "boen pen" yn ogystal â dolur gwddf a phoenau yn ei goesau. Roedd ei fam hefyd yn poeni bod ei groen yn troi yn felyn.

Fe wnaeth Mrs Morse sawl apwyntiad i'w mab ym meddygfa Abernant, ond ni chafodd ddiagnosis o Glefyd Addison.

'Plentyn difrifol wael'

Pan gafodd Ryan ei daro'n ddifrifol wael yn 2012, dywedodd Mr Price y dylai'r meddygon wedi mynd i gartref y bachgen i'w weld.

Dywedodd: "Petai hynny wedi digwydd byddai wedi cadarnhau pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

"Bydden nhw wedi gweld plentyn oedd yn ddifrifol wael ac oedd angen cymorth ar unwaith. Yn wir, roedd Ryan yn marw."

Ychwanegodd os nad oedd y meddygon yn gallu mynd yn bersonol, yna dylai bod ambiwlans wedi ei yrru i'w gartref.

"Petawn nhw wedi gwneud yr hyn y dylen nhw fod wedi ei wneud, byddai ei fywyd wedi ei achub," meddai.

Mae'r meddygon yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.