Cynghorydd Llafur yn gwadu gwrth-Semitiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd o dde Cymru sydd wedi ei wahardd o'r Blaid Lafur wedi gwadu ei fod yn wrth-Semitaidd.
Cafodd Miqdad Al-Nuaimi ei wahardd ar ôl i flog gyfeirio at gyfres o negeseuon Twitter ganddo oedd yn awgrymu ei fod yn credu bod gan Iddewon "yr un meddylfryd haerllug a'r Natsïaid".
Dywedodd Llafur ei fod wedi ei wahardd yn dilyn honiadau o wrth-Semitiaeth, ac y byddai ymchwiliad i'r mater.
Ond dywedodd Mr Al-Nuaimi nad oedd unrhyw un wedi rhoi gwybod iddo ef am y penderfyniad.
Cafodd y negeseuon Twitter eu hamlygu ar wefan Guido Fawkes.
Roedd y cynnwys o 2014 a 2015 yn cyfeirio at "yr un meddylfryd haerllug a'r Natsïaid" wrth drafod Israel ac Iddewon.
Dywedodd Mr Al-Nuaimi, cynghorydd yn ward Stow Hill yng Nghasnewydd, ac sy'n wreiddiol o Irac: "Sut alla i fod yn wrth-Semitaidd pan rydw i fy hun yn Semitaidd?
"Mae hi'n ddiwrnod trist bod unrhyw feirniadaeth o lywodraeth Israel yn cael ei weld fel gwrth-Semitiaeth a hiliaeth."
Ychwanegodd y byddai'n brwydro yn erbyn y gwaharddiad.
'Disgwyl ymchwiliad'
Dywedodd Ray Truman, dirprwy arweinydd y grŵp Llafur yng Nghasnewydd, ei fod wedi cael gwybod bod Mr Al-Nuaimi wedi ei wahardd dros negeseuon "y mae ei fod wedi eu gwneud".
Ychwanegodd ei fod yn pryderu, ond nad oedd am wneud sylw pellach cyn unrhyw ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur bod Mr Al-Nuaimi wedi ei wahardd "wrth ddisgwyl am ymchwiliad".