Agor ystafell deuluol er cof am Conner Marshall
- Cyhoeddwyd

Cafodd ystafell arbennig ei hagor yn ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mercher ar gyfer teuluoedd anwyliaid sy'n wael iawn yn yr ysbyty.
Bwriad yr ystafell yw darparu teuluoedd â'r cyfleusterau a'r preifatrwydd sydd eu hangen arnyn nhw tra'u bod yn aros yno.
Mae'r ystafell wedi ei rhoi er cof am Conner Marshall o'r Barri, fu farw ym mis Mawrth 2015 wedi ymosodiad arno ym maes carafannau Bae Trecco ym Mhorthcawl.
Bu teulu Conner ac elusen 2 Wish Upon a Star yn codi arian er mwyn darparu ystafell fel hon.
'Delio gyda sefyllfa hunllefus'
Mewn cyfweliad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd mam Conner, Nadine Marshall iddyn nhw gael y syniad oherwydd y diffyg darpariaeth oedd yn yr ysbyty pan oedd Conner yn wael iawn: "Roedd e'n gyfnod anodd iawn. Ein profiad ni oedd gorfod aros mewn ystafell oer heb gyfleusterau syml fel blancedi, clustogau.
"Roedd y nyrsys yn wych, ond nhw oedd yr unig rai oedd yn gallu rhoi pethe bach syml i ni jyst i'n helpu ni drwy'r holl sefyllfa, felly mae'n hollbwysig fod unrhyw deulu sy'n gorfod mynd trwy hunllef fel hyn yn gallu cael cyfleusterau fel hyn.
"Y gobaith yw y bydd yr ystafell yn rhoi rhywle cyfforddus a phreifat i deuluoedd medru jyst deall a delio gyda sefyllfa hunllefus a difrifol sydd wedi digwydd iddyn nhw, a rhoi cyfle iddyn nhw ymlacio a chael preifatrwydd."
Ar 8 Mawrth 2015, ymosododd dyn ar Conner, oedd yn 18 oed, pan oedd ym mharc carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl. Aed ag e i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd, ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Plediodd David Braddon, dyn 26 oed o Gaerffili, yn euog i'w lofruddiaeth a chafodd ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd. Clywodd y llys yn ystod yr achos ei fod wedi camgymryd Conner am rywun arall.
'Lleihau'r teimlad o anobaith'
Yn dilyn marwolaeth ei mab, cysylltodd Nadine gydag elusen 2 Wish Upon a Star, sy'n cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy'n galaru: "Aethon ni at 2 Wish Upon a Star i ddefnyddio nhw fel modd o gefnogaeth i'r teulu, ac wedyn gethon ni'r cyfle a'r fraint i gwrdd a Rhian Burke o'r elusen.
"Gyda'n gilydd, dros gyfnod o drafod, gethon ni'r syniad bod angen rhywbeth i leihau'r teimlad o anobaith sydd yna i deuluoedd.
"Gethon ni ddigwyddiad mawr y llynedd, 'Conner's Beard Bash' a gethon ni noson o berfformio gan hen ffrindiau i Conner oedd erioed wedi perfformio, naill ai canu neu chwarae offerynau. Fe gaethon ni arwerthiant mawr a raffl a llwyddon ni i godi swm aruthrol o fawr o dros £6,000 i'r elusen, felly mae hwnna'n mynd i helpu tuag at addurno a chreu'r stafell holl bwysig 'ma."
Mae Nadine yn dweud ei bod yn falch iawn fod yr ystafell wedi ei rhoi er cof am ei mab.
"Fi'n hynod o ddiolchgar. Dymuniad Conner oedd bod bywyd yn parhau, dyna beth oedd ei feddwl e, ar ei tatŵ fe: "Life goes on".
"Fi'n falch iawn. Mae'r golled yn aruthrol, mae'r archoll yna am byth, ond fi mor falch bod hyn yn digwydd heddi i Conner."