Gwenwch!
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi mai 5 Mai yw Diwrnod y Cartwnydd? Mae'r dyddiad yn cael ei ddathlu gan arlunwyr ar draws y byd i nodi cyhoeddi'r cartŵn lliw cyntaf, The Yellow Kid. Roedd y bachgen melyn yn gymeriad ymddangosodd ym mhapur newydd y New York World rhwng 1895 ac 1898. Cafodd ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y New York Journal.
I ddathlu'r diwrnod, dyma ddetholiad o gartwnau y mae Cymru Fyw wedi eu cyhoeddi ers i'r wefan gael ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl.
Mwynhewch... a gwenwch!
Roedd 2015 yn flwyddyn o ddathliadau ym Mhatagonia. Roedd hi'n 150 o flynyddoedd ers i'r fintai gyntaf sefydlu'r Wladfa
Enillodd Cefin Roberts a Chôr Glanaethwy lawer o edmygwyr newydd ar ôl dod yn ail yng nghystadleuaeth 'Britain's Got Talent' ym mis Mai 2015
Roedd 2015 yn flwyddyn galed yn ariannol i S4C. Cyhoeddodd y Canghellor yn ei adolygiad ym mis Tachwedd y byddai'r sianel yn cael £1.7m yn llai dros y pedair blynedd nesa'
Roedd ffermwyr Cymru yn pryderu ddechrau'r haf wedi i gwmni cydweithredol First Milk gyhoeddi y byddai pris litr safonol o laeth yn gostwng o geiniog y litr ym mhob ardal o'r DU
Ym mis Hydref 2015 roedd hi'n union hanner can mlynedd ers boddi Cwm Tryweryn
Faint ohonoch chi gafodd anrheg fel hon y Dolig diwetha??
Ym mis Chwefror 2016 gwelodd ap Geiriadur Prifysgol Cymru olau dydd
Ym mis Mawrth 2016 cyhoeddodd cwmni dur TATA eu bod am werthu gwaith dur Port Talbot