Heddluoedd Cymru wedi saethu 15 o anifeiliaid ers 2013

  • Cyhoeddwyd
saethuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwartheg gwyllt a chŵn peryglus ymysg nifer o anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd gan swyddogion yr heddlu.

Mae cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos fod 15 o anifeiliaid wedi cael eu lladd ers Ebrill 2013 - i gyd wedi cael eu saethu gan swyddogion arfog, ar wahân i'r ci gafodd ei daro gan gar Heddlu Gogledd Cymru ar ffordd yr A55.

Mae'r anifeiliaid yn cynnwys moch daear, ceffylau a cheirw.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lladd tri anifail, Heddlu Gogledd Cymru wedi lladd 11, a Heddlu De Cymru wedi lladd un.

Doedd Heddlu Gwent ddim wedi darparu ffigurau.

Amgylchiadau

Roedd naw o'r 11 anifail a gafodd eu difa yn y gogledd wedi cael eu taro gan geir a lorïau ar y ffordd, felly dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu saethu er mwyn "rhoi diwedd ar eu dioddefaint".

Roedd y ci ar ffordd yr A55 yn rhedeg yn rhydd rhwng Llanfairfechan a thwnnel Conwy, ac fe ddywedodd y llu nad oedd heddweision wedi gallu dod â'r ci dan reolaeth ac mai'r "unig opsiwn diogel" oedd i'w ladd.

Fe saethodd Heddlu Dyfed-Powys ddwy fuwch gyda reiffl yng Nghaerfyrddin ym mis Ebrill 2014, ar ôl iddyn nhw ddianc a rhedeg ar hyd ffyrdd prysur.

Ym mis Mawrth 2015, fe lwyddodd bustach i ddianc o farchnad wartheg yn Aberhonddu, ac fe gollodd bob rheolaeth, felly cafodd ei saethu gan fod swyddogion yn credu ei fod yn berygl i'r cyhoedd.