Darganfod ffordd newydd o fonitro diabetes
- Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr yn dweud eu bod wedi darganfod dull newydd o fesur glwcos yng ngwaed pobl sydd â diabetes.
Mae'r dull newydd yn defnyddio microdonnau yn lle pigo'r croen.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i ddioddefwyr bigo eu bysedd sawl gwaith y dydd, neu ddefnyddio dyfeisiau monitro glwcos yn y gwaed yn barhaus.
Gall y ffordd newydd o fonitro, a grëwyd gan Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, gael ei ddefnyddio, heb niweidio'r croen.
Dywedodd yr Athro Adrian Porch: "Bydd hyn yn helpu i reoli'r cyflwr."
Ychwanegodd: "Mae dulliau confensiynol o fonitro glwcos yn y gwaed yn gofyn i rywun dynnu gwaed.
"Mae ein dyfais yn golygu nad oes angen tynnu gwaed ar wahân i'r broses gychwynnol."
'Cwbl ddiogel'
Mae'r Athro Porch yn dweud bod y ddyfais, a gafodd ei datblygu gyda Dr Heungjae Choi, yn gallu cael ei gosod ar y fraich neu ar ochr y corff gan ddefnyddio glud arbennig.
Yna gall y data sy'n cael ei gasglu gael ei fonitro'n barhaus ar gyfrifiadur neu app symudol.
Dywedodd yr Athro Porch fod y broses yn "gwbl ddiogel".
"Mae'n defnyddio microdonnau, ond mae'r lefelau yn ddiogel, maen nhw'n isel iawn. Dim byd tebyg i'r lefelau sy'n cael eu defnyddio wrth goginio yn y cartref.
"Meddyliwch am ffôn symudol, maen nhw tua 1,000 o weithiau yn llai na'r lefel honno."