Criced: Caint yn rhoi cweir i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Roedd Tom Latham yn allweddol ym muddugoliaeth Caint
Fe gafodd Morgannwg grasfa gan Caint yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaergaint ddydd Mercher.
Roedd angen 187 ar y tîm cartref yn eu hail fatiad i ennill y gêm, ac fe lwyddon nhw i gyrraedd y nod heb golli'r un wiced.
Hon oedd yr ail gêm o dair i Forgannwg golli yn y bencampwriaeth. Er hynny mae'r sir yn bumed o naw yn nhabl Adran 2 o'r Bencampwriaeth gan eu bod wedi sicrhau nifer cymharol uchel o bwyntiau bonws.
Batwyr agoriadol Caint - Daniel Bell-Drummond a Tom Latham - wnaeth y difrod mwyaf ar draws y pedwar diwrnod gan sgorio dros 100 rhyngddyn nhw am y wiced agoriadol yn y ddau fatiad.
Pencampwriaeth y Siroedd - Caint v. Morgannwg - Sgôr terfynol:
Morgannwg (batiad cyntaf) - 260
(ail fatiad) - 414
Caint (batiad cyntaf) - 488
(ail fatiad) 190 heb golled