Marwolaeth Ryan Morse: 'Neb yn gwrando'
- Cyhoeddwyd

Mae mam bachgen 12 oed, oedd â chlefyd Addison, wedi dweud na chafodd pryderon a godwyd ganddi cyn iddo farw eu cymryd o ddifri gan ddoctoriaid.
Bu farw Ryan Morse, o Frynithel ger Abertyleri, ym mis Rhagfyr 2012, ar ôl i'w gyflwr waethygu.
Mae'r Dr Lindsey Thomas, 42 oed, o Dredegar, a Dr Joanne Rudling, 46 oed, o Bontprennau yng Nghaerdydd, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Cafodd cyfweliad gyda'r heddlu ei ddangos i'r rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Ynddo, mae mam Ryan, Carol Morse, yn disgrifio ymweliad â meddygfa Abernant yn Abertillery, bum mis cyn ei farwolaeth.
Fe ddywedodd hi bod Ryan wedi dangos symptomau a oedd yn cynnwys poen pen, dolur gwddf a phoenau yn ei goesau.
Dywedodd Dr Ian Jones wrthi bod ei mab yn dioddef o feirws.
Yn ôl Mrs Morse, roedd hi wedi dychryn gweld pa mor dywyll oedd croen ei mab ar ei stumog pan gododd y doctor ei grys.
"Fe wnes i bwyntio tuag at y man tywyll o gwmpas ei geg a'i ddwylo a'i gymalau ac fe wnes i grybwyll twymyn y chwarennau (glandular fever)," meddai yn y cyfweliad.
'Neb yn gwrando'
"Pan ddwedais i hynny, fe atebodd Dr Jones, 'Fi yw'r doctor'.
"Roedd e'n eithaf plaen. Rwy'n credu fy mod wedi ei ypsetio."
Dywedodd bod Ryan yn sâl am wythnos wedi'r ymweliad, ond yna ei fod mewn hwyliau gwell, er ei fod yn parhau yn flinedig a'r lliw tywyll ar ei groen yn parhau.
Fe glywodd y llys ei bod wedi mynd yn ôl i'r feddygfa ym mis Medi 2012, wedi i Ryan gael lympiau o dan ei groen.
Ond fe wnaeth doctor arall ei diystyru gan ddweud mai brech oedd arno.
"Roeddwn wedi mynd yno i egluro beth oedd yn mynd ymlaen gyda Ryan a chefais y teimlad nad oedd neb yn gwrando arna i," ychwanegodd Mrs Morse.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2016