Cartref gofal yn Sir Benfro: Arestio menyw 60 oed
- Cyhoeddwyd

Mae menyw 60 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â thwyll honedig mewn cartref gofal yn Sir Benfro.
Daw hyn ar ôl cyhoeddiad gan Gyngor Sir Benfro eu bod yn dod â chontract i ben gyda chartref Heron's Reef yn Llangwm i ddarparu gofal preswyl.
Roedd y penderfyniad oherwydd "pryderon difrifol" ar sut yr oedd y cartref yn annibynnol yn cael ei reoli.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi bod yn gweithio gyda'r perchennog a'r rheolwr i ddatrys y sefyllfa, ond heb lwyddiant.
Mae'r contract yn dod i ben ar 16 Mehefin ac mae'r 10 o drigolion yn y cartref yn cael eu cefnogi i symud i lety arall.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau o dwyll a dywedodd bod y fenyw 60 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.