BBC Cymru Fyw

Llyn Padarn: Ymchwilio i achos o lygredd

Published
image copyrightCyfoeth Naturiol Cymru
image captionYr achos o lygredd
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos o lygredd yn Llyn Padarn yn Llanberis.
Dywedodd llefarydd eu bod yn credu fod baw neu laid wedi dod i'r llyn o Afon Las. ger Nant Peris,
Ychwanegodd y llefarydd "nad oedd y digwyddiad yn gysylltiedig â charthion".
Yn gynharach yr wythnos hon gwelwyd cloddiwr mawr wrth lan Afon Las, fel rhan o'r gwaith ar gynllun hydro-electrig, ond nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru am gadarnhau ffocws ei ymchwiliad.