Medd o Gymru yn 'atal gwenwyn bwyd'?

  • Cyhoeddwyd
medd a samonelaFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae gwyddonwyr yn gweithio ar fath o 'Fedd Cymreig arbennig', sydd â'r potensial o ddiogelu pobl rhag gwenwyn bwyd.

Mae Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn bwriadu ychwanegu perlysiau naturiol, sy'n gallu ymladd bacteria salmonela - at y ddiod gadarn.

Mae'r diod yn seiliedig ar hen resait o'r 16eg ganrif.

Y nôd yw targedu pobl sy'n bwytau byrbrydau tecawê wedi nosweithiau allan.

"Gallwch weld y byddai hyn yn gwerthu yn dda iawn i fyfyrwyr," meddai'r Athro Les Baillie.

"Efallai y gall hyn eu hamddiffyn rhag anhwylder stymog y bore wedyn." meddai.

Dr James Blaxland, sydd wedi arwain y gwaith, wedi profi mwy na 50 o wahanol blanhigion a darnau a berlysiau yn erbyn ystod eang o facteria, gan gynnwys salmonela.

Mae salmonela yn un o'r germau sy'n sbarduno mwy na 500,000 o achosion yn y DU bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Gall y medd helpu i atal anhwylder stymog wedi prydau tecawe, ar ôl nosweithiau allan