Chwilio am ddyn ger traeth yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau yn cynorthwyo'r heddlu wrth iddyn nhw chwilio am ddyn sydd ar goll yng Ngwynedd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 18:30 nos Iau, yn dilyn adroddiadau fod dyn ar goll yn ardal Pwllheli.
Mae dau fad achub o Abersoch a Chricieth hefyd yn rhan o'r chwilio, sy'n canolbwyntio ar ardal y traeth.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.