UKIP yn ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Mae UKIP wedi sicrhau eu seddi cyntaf erioed yn y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth eu llwyddiant yn y seddi rhestr ranbarthol, ac mae ganddynt chwech o aelodau ym Mae Caerdydd, a hynny cyn cyhoeddiad canlyniad rhestr Canol De Cymru.
Wrth ymateb i'r canlyniad fe wnaeth Nigel Farage, arweinydd UKIP drydar: "Mae UKIP nawr yn cynrychioli nifer o bleidleiswyr traddodiadol y blaid Lafur."
Ymhlith yr Acau sydd wedi eu hethol mae Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru, a'r cyn aelod seneddol Ceidwadol Mark Reckless.
Dywedodd Mr Reckless: "Fe fyddwn yn dod a chwa o awyr iach yn y Cynulliad. Mae'r sefydliad wedi bod yn rhy glud am amser rhy hir."
Neil Hamilton, cyn aelod seneddol Ceidwadol arall, lwyddodd i gipio sedd UKIP ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae hyn yn agor pennod newydd i mi a gobeithio yn agor pennod newydd i'r Cynulliad hefyd," meddai.
Yn ôl arweinydd UKIP ym Mhrydain, Nigel Farage mae'r canlyniadau yn "gam mawr ymlaen i'r blaid".
Seddi UKIP
- Gogledd Cymru - Nathan Gill, Michelle Brown
- Canolbarth a Gorllewin Cymru - Neil Hamilton
- Gorllewin De Cymru - Caroline Jones
- Dwyrain De Cymru - Mark Reckless, David Rowlands
- Canol De Cymru - Gareth Bennett
Mae Nathan Gill, wedi dweud y bydd yn rhoi'r gorau i'w sedd yn Senedd Ewrop yn dilyn cael ei ethol i'r Cynulliad, ac fe fydd yn rhaid i UKIP ddewis rhywun yn ei le o'r rhestr o ymgeiswyr wnaeth sefyll ar eu rhan yn Etholiad Ewrop.