BBC Cymru Fyw

Ymchwiliad llofruddiaeth: Enwi dynes

Published
image copyrightHeddlu Gwent
image captionIris Owens

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Ystrad Mynach wedi enwi'r ddynes 75 oed y cafwyd hyd i'w chorff ddydd Mawrth.

Roedd Iris Owens yn byw yn ardal Ystrad Mynach. Cafwyd hyd i'w chorff yn Ffordd Neslon ardal ger yr orsaf drenau tua 17:45.

Mae dyn 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae o'n parhau i gael ei holi.

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth a dylid cysylltu â nhw ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 363 03/05/2016.

image copyrightHeddlu Gwent/Google
image captionFe wnaeth Heddlu Gwent ymateb i alwad am gymorth gan Wasanaeth Ambiwlans De Cymru

Straeon perthnasol

  • Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Ystrad Mynach