Ceisio iawndal o £100,000 gan fwrdd iechyd Hywel Dda
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin yn hawlio iawndal o £100,000 gan ddweud nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond cerdded 23 milltir i'w gartref ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty.
Dywed Peter Rees, 62, o Lanwrda ger Llanymddyfri ei fod wedi ei gludo i ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar Noswyl Calan oherwydd ei fod yn fyr o wynt.
Aed ag ef i'r ysbyty gan barafeddyg, ond ar ôl nifer o brofion fe gafodd feddyginiaethau gwrthfiotig a'i ryddhau am 02:00 ar Ddydd Calan.
Clywodd llys fod Mr Rees wedi gadel ei waled gartref, ac nad oedd neb ar gael i ddod i'w nôl.
Mae'n ceisio hawlio iawndal gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
"Mae ysbytai i fod yn llefydd sy'n gofalu," meddai.
"Ond fe ddywedodd nyrs fod yn rhaid i mi fynd, felly rhaid oedd cerdded," ychwanegodd.
Honiad o esgeulustod
Dywedodd ei fod wedi ceisio egluro ei sefyllfa ond doedd neb yn fodlon helpu.
Cafodd orchymyn i adael yr ysbyty ar ôl i nyrs ddweud fod ei ymddygiad yn fygythiol.
Mae Mr Rees yn ceisio iawndal o £100,000 gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, gan eu cyhuddo o esgeulustod o ran ei ofal.
Ar ôl cerdded 12 milltir cafodd ei weld gan fan yr heddlu a'i gludo adre tua 06.30.
"Hyd yn oed pe bai gennyf arian ni fyddaf wedi gallu cael tacsi'r adeg yna o'r nos ar Noswyl Calan," meddai.
Mae'r bwrdd iechyd yn gwadu iddynt wneud unrhyw beth o le ac maent wedi gofyn i'r llys beidio â rhoi hawl i'r achos fynd yn ei flaen.
Gohirio'r gwrandawiad
Dywedodd Christian Howells, cyfreithiwr ar ran y bwrdd: "Dyw'r Bwrdd ddim dan unrhyw ddyletswydd gofal i ddarparu tacsi er mwyn cludo claf iach i'w gartref.
"Ei benderfyniad ef oedd i gerdded adref. Fe allai wedi cymryd tacsi a thalu unwaith iddo gyrraedd adref."
Dywedodd y barnwr Rosamund Cleal nad oedd hi wedi ei pherswadio nad oedd yn achos oedd yn haeddu gwrandawiad
Fe wnaeth hi ohirio'r gwrandawiad, er mwyn rhoi mwy o amser i Mr Rees baratoi ei achos a chyflwyno tystiolaeth feddygol.