Aelod seneddol newydd Ogwr yw Christopher Elmore
- Cyhoeddwyd

Christopher Elmore yw aelod seneddol Llafur newydd dros Ogwr ar ôl ennill yr is-etholiad seneddol ddydd Iau.
Cafodd Mr Elmore 52% o'r bleidlais a daeth UKIP yn ail.
Cynhaliwyd yr is-etholiad am fod Huw Irranca-Davies, yr aelod seneddol blaenorol, wedi penderfynu sefyll dros y blaid Lafur ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.
Etholwyd Mr Irranca-Davies yn AC dros etholaeth Ogwr, gyda 52% o'r bleidlais.
Mae Mr Elwood yn gyn aelod o gyngor Bro Morgannwg.