Ryan Morse: Meddyg yn 'gwrthod' ymweliad cartref
- Cyhoeddwyd

Gwrthododd doctor sy'n wynebu cyhuddiad o ddynladdiad, ymweld â bachgen 12 oed y diwrnod cyn iddo farw, er gwaetha ceisiadau'i fam.
Clywodd llys bod Dr Joanne Rudling, 46 oed wedi dweud wrth Mrs Carol Morse fod cyflwr ei mab Ryan wedi'i achosi gan newidiadau hormonau ac fe ddywedodd wrthi am drefnu i'w mab weld meddyg gwrwaidd.
Mae Dr Rudling, o Gaerdydd a'r Dr Lindsey Thomas, o Dredegar yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.
Buodd Ryan o Frynithel, ger Abertyleri farw ar Ragfyr 8 2012 o glefyd Addison, cyflwr sy'n effeithio ar y chwarren adrenal.
Aeth yn sâl ym mis Gorffennaf ond fe ddywedodd tri doctor, gan gynnwys Dr Rudling, taw feirws oedd yn achosi symptomau Ryan.
Yn 'gwbl ddu'
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mrs Morse wedi ffonio meddygfa Abernant ar Ragfyr 7 2012 ar ôl iddi sylwi fod organau cenhedlu Ryan yn ''gwbl ddu'' a'i fod yn chwydu a'r dolur rhydd arno.
Am 08.55 ar Ragfyr 7 fe dderbyniodd Mrs Morse alwad yn ôl gan Dr Thomas.
Fe ddywedodd wrth Dr Thomas am y symptomau hyn ac fod Ryan yn 'clywed lleisiau' ac roedd yn benysgafn.
Gofynodd Dr Thomas iddi ddod â Ryan i'r feddygfa ond fe ddywedodd Mrs Morse fod hyn ddim yn bosib oherwydd nad oedd Ryan yn gallu cerdded.
Mewn cyfweliad gyda'r heddlu dywedodd Mrs Morse : ''Dwedodd hi'i 'ddod ag e lan' ond dwedes i bo fi ffaelu achos doedd e ddim yn gallu cerdded, o'n i ar ben fy hun ac o'n i'n methu cario fe i'r car.
''O'n i wedi synnu ei bod hi'n mynnu bo fi'n dod ag e lan. Esbonies i bo fe ffaelu cerdded a nad o'n i'n gallu cario fe, dair neu bedair gwaith.
''O'n i'n meddwl bydde hi'n dod i'w weld e.''
Dywedodd Mrs Morse bod Dr Thomas wedi cynghori iddi roi paracetamol i Ryan a gweld sut oedd ymhen amser.
Clywodd y llys fod 'na ddim sôn wedi bod yn ystod y galwad ffôn bod Dr Rudling wedi gweld Ryan ddwy waith yn ystod y mis blaenorol oherwydd ei flinder affwysol, y chwydu a bod ei groen yn tywyllu.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016