Gyrrwr ambiwlans wedi cael trawiad ar y galon wrth yrru

john Image copyright BBbc
Image caption Bu farw John Clift, 54, yn y digwyddiad

Cafodd gyrrwr ambiwlans a laddwyd wedi i ddau ambiwlans daro yn erbyn ei gilydd ger Pwllheli drawiad ar y galon wrth yrru.

Bu farw John Clift, 54, yn y digwyddiad ar yr A499 rhwng pentrefi'r Ffôr a Llanaelhaearn ar 29 Ebrill.

Yn ôl swyddfa crwner gogledd orllewin Cymru, Dewi Pritchard, ni fydd cwest i'w farwolaeth.

Dangosodd archwiliad post mortem mai achosion naturiol oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.

Roedd Mr Clift, o ardal Pwllheli, yn gyrru un o'r cerbydau.