Darganfod corff dyn yn Afon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn Afon Taf ger Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.
Mae Heddlu De Cymru yn archwilio'r ardal lle cafodd y corff ei dynnu o'r dŵr.
Mae ymchwiliad ar y gweill i sefydlu pwy yw'r dyn a beth oedd amgylchiadau ei farwolaeth.
Fe gafodd swyddogion eu galw am tua 17:30 ddydd Gwener.