ACau newydd UKIP yn tyngu llw am y tro cyntaf
- Published
Mae Aelodau Cynulliad newydd UKIP wedi tyngu llw yn y Senedd ddydd Sadwrn, ar ôl i'r blaid ddisodli seddi grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd.
Cafodd saith o aelodau UKIP eu hethol i'r Cynulliad, y tro cyntaf i'r blaid sicrhau cynrychiolaeth ym Mae Caerdydd.
Mae nifer y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad wedi gostwng o bump i un yn dilyn yr etholiad ddydd Iau.
Fe gyhoeddodd arweinydd y blaid, a'r unig AC erbyn hyn, Kirsty Williams, ei bod yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid ddydd Gwener.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn treulio'r penwythnos yn paratoi i ffurfio gweinyddiaeth newydd, ar ôl i'r Blaid Lafur ennill 29 o'r 60 sedd.
Mae disgwyl i'r Cynulliad gwrdd am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal ymhlith y pleidiau ynglŷn â phenodi llywydd a dirprwy lywydd newydd.
Yn y cyfamser, mae aelod cynulliad newydd UKIP Neil Hamilton wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd y grŵp o saith aelod newydd yn penderfynu pwy fydd yr arweinydd rhywbryd yr wythnos nesa.
Dywedodd Mr Hamilton, sy'n gyn AS Ceidwadol, nad yw'n dilyn mai arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, fydd yn cael ei ddewis yn awtomatig fel arweinydd y grŵp yn y Cynulliad.
Dywedodd fod yna nifer o fewn y grŵp gyda'r sgiliau angenrheidiol.
Cafodd Mr Gill ei benodi yn arweinydd UKIP Cymru, gan Nigel Farage yn 2014.
"Rydym am gael trafodaeth o'r holl grŵp a byddwn yn dod i benderfynu pwy sy'n debyg o fod yr arweinydd mwyaf effeithiol yn y Cynulliad."
Pan ofynnwyd iddo a'i ef fyddai'r arweinydd gorau, dywedodd:
"Mae gennyf lawer o brofiad seneddol ac felly hefyd Mark Reckless, rwyf wedi bod yn ymhel â gwleidyddiaeth am amser hir ar lefel eithaf uchel, ac mae yna nifer o bobl yn UKIP sydd a'r math o sgiliau fyddai'n fanteisiol i arweinydd.
"Ond dwi ddim am ragdybio'r trafodaethau fyddwn yn eu cael, mae'n debyg ar ddydd Mawrth. "
Ceidwadwyr
Bydd y grŵp Ceidwadol yn cyfarfod ddydd Llun i drafod strategaeth, ar ôl etholiad siomedig dan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Fe fethodd y blaid ag ennill unrhyw seddi targed gan gwympo i'r trydydd safle yn y Cynulliad tu ôl i Blaid Cymru.
Dywedodd AC Mynwy, Nick Ramsay: "Ni allai problemau'r Ceidwadwyr gael eu brwsio o dan y bwrdd, ac mae angen trafod yr arweinyddiaeth."
Ond mae Mr Ramsay yn cefnogi Mr Davies ar ôl yr hyn a elwir yn ymgyrch "anodd".
Yn y cyfamser, disgrifiodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yr ymgyrch fel un "cadarnhaol" ac "uchelgeisiol" gyda "syniadau gwych" yn cael eu trafod.
"Rydym wedi profi y gallwn herio mewn seddi allweddol erbyn y tro nesaf."