Tata: Colli mil yn rhagor o swyddi?
- Cyhoeddwyd

Mae'r grŵp o reolwyr sydd â diddordeb mewn prynu safleoedd cwmni dur Tata ym Mhrydain wedi awgrymu y gallai 1,000 yn rhagor o swyddi fod o dan fygythiad petai eu cais yn llwyddiannus.
Mae undebau wedi mynegi pryder ynghylch awgrym cwmni Excalibur Steel y byddai angen colli rhagor o swyddi wrth ail-strwythuro.
Cyflwynwyd dau gais posib i brynu'r gweithfeydd - mae'r llall gan Liberty House.
Mae mwy na 4,000 o bobl yn gweithio ar y safle ym Mhort Talbot yn ne Cymru, y mwyaf yn y DU.
Dywedodd y perchennog presennol, Tata Steel yr wythnos hon y byddai'n dechrau edrych ar yr hyn y mae darpar brynwyr yn barod i gynnig ar ôl derbyn llythyrau o fwriad.
Mae Tata wedi ei gwneud yn glir na all gynnal ei golledion o £1m-y-dydd am gyfnod amhenodol ac nid yw am ymestyn yr ansicrwydd ar gyfer gweithwyr a chwsmeriaid.
'Cyfle am fwy o effeithlonrwydd'
Dywedodd Excalibur y byddai'r ad-drefnu yn angenrheidiol gan fod y busnes presennol ei redeg fel rhan o un llawer mwy, gyda safleoedd eraill yn Ewrop.
Mewn datganiad dywedodd: "Mae'r cyfle am fwy o effeithlonrwydd yn golygu esblygu o fodel busnes wedi ei chanoli, gyda chostau a gorbenion sefydlog arwyddocaol... gallai hyn effeithio ar hyd at 1,000 o swyddi."
Dywedodd Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Community bod hyn yn "bryderus" i weithwyr dur, a oedd eisoes yn wynebu ansicrwydd: " Nid ydym wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Excalibur am golli swyddi ychwanegol.
"Yr ydym yn aros i weld y manylion am eu cynlluniau ar gyfer y busnes ac unrhyw oblygiadau ar gyfer swyddi."