Caerdydd 1-1 Birmingham
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Gaerdydd fodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Birmingham, gêm olaf Russell Slade fel rheolwr y clwb.
David Cotterill roddodd yr ymwelwyr ar y blaen, cyn i Anthony Pilkington fanteisio ar flerwch yn amddiffyn Birmingham i unioni'r sgôr.
Roedd yr ail hanner yn un difflach. Daeth y cyfle gorau i Birmingham a James Vaughan ond ei ymdrech o yn taro'r postyn.
Golygai'r canlyniad fod Caerdydd yn gorffen y tymor yn safle rhif wyth, gyda Birmingham yn y 10fed safle.
Ar ôl y gêm dywedodd Slade: "Fe wnaethom chwarae yn dda mewn cyfnodau, ac yn llawer cryfach yn y 25 munud olaf. "
"Ond dyw ein perfformiadau heb gael eu hadlewyrchu yn y nifer o bwyntiau rydym wedi sicrhau," meddai.
"Mae hynny wedi costio'n ddrud, ond mae wedi bod yn dymor positif i'r clwb ar rydym yn symud ymlaen."