Gweilch 26-46 Ulster
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Inpho
Fe wnaeth Ulster roi terfyn ar obeithion y Gweilch o gystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesa gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Stadiwm y Liberty.
Roedd Ulster ar y blaen 21-14 ar yr egwyl.
Cais yr un i Paddy Jackson a Rory Best, ac yna Andrew Trimble yn cwrso cic ei hun i groesi'r llinell.
Dan Biggar a Josh Matavesi sgoriodd pwyntiau'r Gweilch yn yr hanner cyntaf.
Yn yr ail hanner, roedd yna gais rhwydd i Chris Henry cyn i Tom Grabham groesi ddwywaith i'r tîm cartref.
Doedd y sgorio ddim ar ben gyda Stuart Olding a Franco van der Merwe yn ychwanegu ceisiadau hwyr i'r ymwelwyr.