BBC Cymru Fyw

Munster 31-15 Scarlets

Published
image copyrightInphoto
image captionSimon Zebo
Fe wnaeth Munster gosbi camgymeriadau'r Scarlets yn ddidrugaredd wrth sicrhau buddugoliaeth gartref.
Golygai'r canlyniad y bydd gan Iwerddon bedwar tîm ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesa, o'i gymharu ag un o Gymru.
Roedd y Scarlets angen buddugoliaeth er mwyn cael unrhyw siawns o orffen yn y pedwar uchaf, ond nid fel yna y bu hi.
Er i'r ymwelwyr gael digon o feddiant, daeth yr unig bwyntiau o bum cic gosb Steven Shingler.
Munster oedd ar y blaen 14-12 ar yr hanner ar ôl i Francis Saili a Rory Scannell groesi'r llinell.
Ar ôl yr egwyl roedd yna geisiadau i Ronan O'Mahony, CJ Stander ac un arall i Scannell.