'Achub' dynes 30 oed o siglen babi
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr gael eu galw i gynorthwyo dynes 30 oed oedd wedi mynd yn sownd mewn siglen mewn parc chwarae.
Cafodd y criw eu galw o orsaf Pen-y-bont ar Ogwr i Sarn tua 21:45 ddydd Gwener.
Llwyddodd y diffoddwyr i ryddhau'r ddynes drwy dynnu'r siglen yn ddarnau.
Yna, cafodd y siglen ei roi yn ôl at ei gilydd.
Mae'n debyg na chafodd y ddynes unrhyw anafiadau.