Tân mewn adeilad ffatri fawr
- Cyhoeddwyd

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi llwyddo i reoli tân mewn adeilad ffatri fawr yn Llanelli.
Cafodd y diffoddwyr eu galw tua 15:25.
Roedd yna saith peiriant ar y safle ar un adeg.
Yn eu plith roedd uned diogelu'r amgylchedd.