Llywodraeth leafrifol yn debygol, medd AC Llafur

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething and BBC Wales political reporter James Williams
Disgrifiad o’r llun,
Vaughan Gething

Mae AC Llafur blaenllaw wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn disgwyl y bydd y blaid yn ffurfio llywodraeth leiafrifol ar ôl ennill 29 o'r 60 o seddi yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Vaughan Gething, is weinidog iechyd yn y llywodraeth flaenorol, nad oedd yna bwysau mawr ar y blaid Lafur wrth feddwl am y posibilrwydd o lywodraeth leiafrifol.

Roedd Plaid Cymru, meddai, wedi ei gwneud hi'n yn amlwg nad oeddynt am glymbleido.

Ychwanegodd nad oedd yn bosib i Lafur ddod i gytundeb gyda UKIP na'r Ceidwadwyr.

Ddydd Gwener dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, nad oedd hi'n gweld unrhyw fodd y byddai ei phlaid yn rhoi'r sicrwydd o rym i Lafur.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'n rhaid bod yna drafodaeth gyda'r pleidiau eraill, ond os ydych yn edrych ar yr hyn sydd yn bosib yn ymarferol, yna fe wnaeth Plaid Cymru yn amlwg nad oes ganddynt ddiddordeb mewn clymblaid. "

"Rydym yn gwybod fod yna wahanol farn o fewn y blaid honno, o ran be ddylai ddigwydd.

"Rydym wedi ei gwneud yn glir na allwn ddod i gytundeb gyda UKIP na'r Ceidwadwyr."

"Felly, fe fydd yna drafodaeth synhwyrol am sut olwg fydd yna ar ein rhaglen lywodraethol, a hefyd sut allwn weithio gyda'n gilydd fel sydd wedi bod yn digwydd am bum mlynedd, oherwydd doedd yna ddim mwyafrif o'r blaen."

Mae disgwyl i'r Cynulliad newydd gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher.