Ethol Jeff Cuthbert yn Gomisiynydd Heddlu ardal Gwent
- Published
Mae Jeff Cuthbert wedi ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer ardal Gwent.
Mae Mr Cuthbert yn gyn-aelod Llafur yn y Cynulliad dros Lafur.
Doedd yr ymgeisydd diwethaf i fod yn gomisiynydd ar gyfer yr ardal, Ian Johnston, ddim wedi ceisio cael ei ail-ethol y tro hwn.
Mae modd i chi ddarllen holl ganlyniadau'r etholiad am Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd dros y pedair ardal wahanol o Gymru drwy glicio yma.
Cafodd y bleidlais i ddewis comisiynydd ei chynnal yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad ar ddydd Iau 5 Mai, mewn ymgais i gynyddu canran y rhai oedd yn pleidleisio o'i gymharu â 2012.
Fe wnaeth 42% o bobl bleidleisio o gymharu gyda 13.9% y tro diwethaf.
Louise Brown, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig a Darren Jones o Blaid Cymru oedd yr ymgeiswyr eraill.
Cafodd 20,812 o bapurau pleidleisio eu difetha.
Mae Alun Michael yn parhau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi iddo gael ei ail-ethol dros y rhanbarth ar ran y blaid Lafur. Arfon Jones o Blaid Cymru ydi Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd rhanbarth y gogledd a Dafydd Llywelyn, hefyd o Blaid Cymru, ydi'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ran ardal Dyfed Powys.
Ymateb
Wrth ymateb i fuddugoliaeth Jeff Cuthbert ag Alun Michael, dywedodd Carwyn Jones: "Fe hoffwn longyfarch Alun Michael a Jeff Cuthbert am eu buddugoliaethau gwych yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Rwy'n gwybod y byddant yn gynrychiolwyr gwych ar ran eu hardaloedd ac fe fyddant yn gweithio'n galed i gadw eu cymunedau'n ddiogel."
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent yn gofalu am bum awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru, Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, ardal o 600 milltir sgwâr a phoblogaeth o fwy na 576,700.
Ar hyn o bryd mae'r llu yn cyflogi 1,285 o swyddogion, 835 o staff a 191 o swyddogion cymorth cymunedol. Mae'r gweithlu 10% yn llai nag yr oedd yn 2010, yn ôl yr heddlu.
Y prif gwnstabl presennol yw Jeff Farrar, a benodwyd ar ôl i'r cyn-brif gwnstabl Carmel Napier ymddiswyddo yn 2013 o dan amgylchiadau dadleuol. Cyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2016/17 yw £130.7m.
Cododd nifer y troseddau a gofnodwyd yng Ngwent 4% rhwng mis Medi 2014 a Medi 2015. Roedd cyfanswm o 37,306 o ddigwyddiadau, ac eithrio twyll.