Ethol Comisiynydd Heddlu newydd dros ardal Dyfed Powys
- Cyhoeddwyd

Mae gan Heddlu Dyfed-Powys gomisiynydd newydd ar ôl i Dafydd Llywelyn ddisodli Christopher Salmon.
Roedd Mr Salmon wedi ei feirniadu am bolisïau i gau nifer o orsafoedd heddlu lleol.
Cafodd hefyd ei feirniadu gan wleidyddion lleol ar ôl newidiadau oedd yn golygu nad oedd gan Heddlu Dyfed-Powys hofrennydd eu hunain.
Mae Mr Llywelyn yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr ymgeiswyr eraill oedd: Richard Church, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru; William Davies, Annibynnol; Kevin Madge ar ran y blaid Lafur a Desmond Parkinson o UKIP Cymru.
Cafodd y bleidlais ei chynnal yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad, mewn ymgais i gynyddu canran y rhai oedd yn pleidleisio.
Y tro hwn fe wnaeth 51.5% o bobl fwrw pleidlais.
Canlyniad y bleidlais rhwng y ddau geffyl blaen yn y ras, ar ôl cyfrif y ddwy rownd oedd:
Dafydd Llywelyn - 75,158
Christopher Salmon - 59,302
Roedd Mr Llywelyn wedi sicrhau 22,689 o bleidlais ail ddewis, gyda Mr Salmon yn sicrhau 12,209 o bleidleisiau ail ddewis.
Cafodd 27,911 o bleidleisiau eu difetha.
Heddlu Dyfed Powys
Heddlu Dyfed-Powys yw'r heddlu mwyaf o ran daearyddiaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae 'na dros 350 milltir o arfordir.
Mae'n cwmpasu siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, gyda phoblogaeth o fwy na 488,000 ac yn plismona mwy na hanner tir Cymru.
Y prif gwnstabl yw Simon Prince, a'r dirprwy brif gwnstabl yw Carl Langley. Cyfanswm cyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn 2016/17 yw £93.3m.
Roedd 20,021 o droseddau yn Nyfed-Powys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.
Mae hynny wedi cynyddu o 9% ers y flwyddyn flaenorol.