Milwr gafodd ei ladd yn Aberhonddu wedi ei enwi
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru yn deall mai'r Preifat Matthew Boyd yw'r milwr fu farw yn Aberhonddu yn gynnar fore dydd Sul.
Roedd y milwr a'i deulu'n byw yn Gibraltar, ond roedd yn dod yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod ail berson wedi cael ei arestio yn dilyn ei farwolaeth, sef dyn 22 oed. Cafodd dyn arall 23 oed ei arestio nos Sul.
Cafodd Matthew Boyd ei ddarganfod yn anymwybodol ac wedi ei anafu ar Stryd Lion am tua 01:00 fore Sul. Cafodd ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans ond bu farw'n ddiweddarach.
Dywed yr heddlu nad oedd yn gwisgo ei lifrau pan gafodd ei ddarganfod, ac nid oedd dim i awgrymu bod yr ymosodiad wedi digwydd am fod Mr Boyd yn filwr, ac nid oes unrhyw awgrymu bod cysylltiad terfysgol i'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn parhau i ymchwilio ac maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal canol y dre rhwng 00:30 a 01:30.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydym yn ymwybodol o farwolaeth milwr yn nhre Aberhonddu.
"Mae'r heddlu yn ymchwilio a byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."