Pryder am gystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed
- Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi eu lleisio am ddyfodol cystadleuaeth gerdd amlwg i bobl ifanc yng ngorllewin Cymru.
Mae trefnwyr Cerddor Ifanc Dyfed wedi dweud wrth raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru fod dyfodol y gystadleuaeth, a hefyd cystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed, yn y fantol.
Dywed y trefnwyr eu bod yn wynebu bwlch arianol o £23,000 ar gyfer y gystadleuaeth yn 2017 wedi i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru ddod i ben.
Mae cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed ar gyfer offerynwyr dan 19 oed, ac mae'n cynnig dosbarth meistr unigol i bob cystadleuydd, ac hynny gyda rhai o berfformwyr amlycaf Cymru.
Crefft cyfansoddi
Mae Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed yn brosiect sy'n agored i bobl ifanc dan 23 oed, ac yn annog y cyfranogwyr i ymchwilio i gelf a chrefft cyfansoddi meddai'r trefnwyr.
Ymysg y cerddorion buddugol yn y gorffenol mae'r delynores Catrin Finch.
Mewn ymateb, dywedodd datganiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn buddsoddi cannoedd ar filoedd o bunnoedd bob blwyddyn i gynnal gweithgareddau celfyddydol i bobl ifainc.
"Mae hyn yn adlewyrchu'r dalent greadigol aruthrol sydd yma yng Nghymru ond mae hefyd yn golygu bod yn rhaid inni wneud penderfyniadau anodd dros ben rhwng ceisiadau sy'n cystadlu â'i gilydd pan fo cymaint o alw am ein harian.
"Er tegwch i'r ymgeiswyr, nid ydym yn trafod ceisiadau unigol. Ond mae Cyngor y Celfyddydau yn cynnig cymorth i'n hymgeiswyr aflwyddiannus ynghylch sut i wneud eu ceisiadau pellach mor gryf ac mor berswadiol â phosibl."