Cyngor yn rhedeg caffi canolfan grefft Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Caffi RuthunFfynhonnell y llun, Cyngor Dinbych

Mae Cyngor Sir Dinbych wedi penderfynu rhedeg caffi yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, wedi i'r caffi gau ddiwedd y llynedd.

Roedd cyn-denantiaid y caffi wedi rhoi'r bai ar ostyngiad yn niferoedd ymwelwyr fel y rheswm pam ei fod wedi gorfod cau.

Ond dywedodd yr awdurdod bod ail-agor y caffi yn "ddechrau newydd sbon" i'r atyniad.

Mae'r caffi ar ei newydd wedd yn cynnwys cegin ag ardal ymlacio. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddatblygu llecyn bwyta allan yn yr awyr agored ar y safle.

'Ymrwymo'

Dywedodd Jamie Groves o Gyngor Sir Dinbych: "Pan gyhoeddodd y tenantiaid blaenorol eu bod am adael, fe wnaeth y cyngor ymrwymo i ail gychwyn y gwasanaeth caffi yn y ganolfan grefft cyn gynted ag oedd yn bosib.

"Mae'n rhan hanfodol o'r cynnig yn y ganolfan grefft ac roedd ymateb y cyhoedd pan wnaeth y caffi gau yn dangos sut y mae'r adnodd yn cael ei werthfawrogi yn y gymuned leol.

"Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n ddi-flino i ail-agor y caffi ac mae wedi penderfynu defnyddio ei wasanaeth arlwyo ei hun i sefydlu Café R, gyda chef, dirprwy chef, cymorthyddion coginio a staff i weini byrddau wedi eu cyflogi'n barod."

Dywed y cyngor bod chwech o stiwdios celf y ganolfan yn cael eu defnyddio, yn dilyn cyfnod pan roedd rhai yn sefyll yn wag y llynedd.

Cafodd y ganolfan grefft, sy'n cael ei arianu gan y cyngor a Chyngor Celfyddydau Cymru, ei hadnewyddu yn 2008 ar gost o £4.3m.