Taliadau i adeiladwyr oedd ar 'restr atal gwaith'
- Cyhoeddwyd

Mae dau o aelodau undeb y GMB yng Nghymru wedi derbyn £120,000 gan gwmnïau adeiladu yn dilyn honiadau fod y gweithwyr ar restr oedd yn cael eu hatal rhag gweithio.
Dywed yr undeb bod cyfanswm yr holl daliadau i 711 o weithwyr yn £75m, gyda 116 o'r rhain yn aelodau'r undeb.
Fe gafodd un gweithiwr o Gaerdydd £90,000 ac fe gafodd gweithiwr arall o Lanelli £30,000, meddai'r GMB.
Mae pedwar undeb wedi dod i gytundeb gyda chyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn dilyn anghydfod cyfreithiol hir.
Taliadau
Fe wnaeth y GMB ryddhau manylion yr achos wedi i undeb arall, Unite, ddod i gytundeb dros daliadau o dros £10m i 256 o'u haelodau
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y cwmnïau adeiladu oedd yn rhan o'r achos bod y setliad yn cau pen y mwdwl ar yr holl geisiadau cyfreithiol.
Mewn rhai achosion, roedd rhestr yn cael ei gadw gan y cyflogwyr o ddaliadau gwleidyddol gweithwyr, neu eu gallu, neu eu haelodaeth o undebau llafur.
Cafodd y rhestr ei ddefnyddio gan gwmnïau adeiladu i ddewis gweithwyr ar safleoedd adeiladu, yn ôl rhai.