Cyfle gwaith i'r digartref mewn bwyty ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd

Mae elusen i'r digartref yng nghymoedd y de wedi dechrau cydweithio gyda bwyty ym Merthyr Tudful i gynnig cyfleon gwaith i bobl ddigartref.
Bydd bwyty Jol's yn y dref yn rhoi lle i bobl sydd wedi bod yn ddigartref i ddysgu sgiliau yn y byd arlwyo.
Os yw'r cynllun yn llwyddo mae'r elusen, Adref yn gobeithio bydd modd ei ehangu i feysydd eraill.
Bydd hyfforddiant ar gael am gyfnod o bedair wythnos, gyda'r gobaith y bydd yr unigolion naill ai'n gallu dod o hyd i swydd barhaol, neu'n mynd i gael hyfforddiant pellach.
Fe fyddan nhw'n cael cyfle i weithio yn y gegin a gweini wrth y byrddau ar ôl treulio amser yn golchi llestri a pharatoi llysiau.
Dywedodd Meurig Parri o Adref: "Mae hyn i gyd yn rhan o'r broses o adeiladu gallu a hyder person i symud i mewn i'r farchnad swyddi."
Mae'r elusen yn helpu tua 700 o bobl yn y cymoedd bob blwyddyn, a'r gobaith yw cynnig y cyfle hwn i 45 o bobl ddigartref pob blwyddyn.
"Mae gan lawer o bobl digartref y gallu a'r ewyllys i ffeindio gwaith ond mae angen hyfforddiant arnyn nhw - tipyn o help i fynd i fyny'r ysgol i gael gwaith,'' meddai Mr Parri.
Mae cynlluniau tebyg wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, gan gynnwys bwyty'r Clink yng ngharchar Caerdydd, ble mae nifer o garcharorion wedi cael swyddi yn y diwydiant arlwyo.